Taith Treftadaeth Pêl-droed Wrecsam (Cymraeg)

Amgueddfa Wrecsam a thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn y dyfodol yn cyflwyno, Taith Treftadaeth Bêl-droed Wrecsam, golwg ar y bobl, y lleoedd a’r digwyddiadau a luniodd pêl-droed yn Wrecsam ac ar draws Cymru gyfan.

Bydd y daith dywys hon drwy strydoedd Wrecsam yn mynd â chi i rai o’r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddadwy yn y ddinas ac yn cysylltu’r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.

Mae hanes pêl-droed yn Wrecsam yn stori a ddechreuodd dros 150 o flynyddoedd yn ôl ac mae pob rhan o’r stori honno’n bodoli oherwydd y bobl yn Wrecsam nad oedd yn gwybod eu bod yn ysgrifennu hanes.

Nod ein taith yw eich cyflwyno chi i’r bobl hyn o’r holl flynyddoedd yn ôl a gwneud yn siŵr bod eu straeon yn parhau i fod wrth wraidd hanes Wrecsam fel man geni pêl-droed Cymru.

Gwybodaeth bwysig:

  1. Bydd y daith hon yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg. Mae taith Seasneg ar gael hefyd. Ewch i’n prif dudalen Eventbrite am ragor o wybodaeth.
  2. Gallwch archebu lle ar daith hyd at 2 ddiwrnod cyn yr amser cychwyn a nodir.
  3. Mae’r daith yn cychwyn ar gwrt blaen Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB. Ymgynullwch yma 15 munud cyn amser cychwyn eich taith.
  4. Yr oedran a argymhellir ar gyfer y daith yw 12+.
  5. Efallai y bydd angen gohirio teithiau yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol/peryglus. Byddwn yn eich hysbysu os bydd hyn yn digwydd.
  6. Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau cyfforddus/synhwyrol, gyda’r daith yn digwydd yn bennaf ar lwybrau troed sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda.
  7. I gael gwybodaeth am archebion grŵp, cysylltwch â museum@wrexham.gov.uk.
  8. Mae’n ddrwg gennym na allwn gynnig ad-daliadau am ganslo cwsmeriaid neu ddim troi fynu.

Sut i archebu

    • Mae tocynnau yn £3 yr un
    • Gallwch archebu lle ar-lein drwy ein tudalen eventbrite.
    • Gallwch hefyd archebu lle drwy ymweld ag Amgueddfa Wrecsam yn bersonol: Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB
    • Neu archebwch dros y ffôn: 01978 297460